04/12/2010

Yr Agoriad Swyddogol - Lluniau a Fideo

Cafwyd diwrnod campus yn Llanrwst heddiw gyda agoriad swyddogol y siop ar ei newydd wedd.



Dewi Prysor, a oedd yn arwyddo ei lyfr, gyda Dwynwen


Y Genod Tan

Cerdd gan Myrddin am siop tad Dwynwen

Mari Gwilym yn dewis o'r casgliad helaeth o gardiau Nadolig

Dwynwen ac Alun Ffred yn agor y ruban swyddogol

Dwynwen yn derbyn blodau gan Pat

Arwydd newydd uwchben hen siop tad Dwynwen

Croeso gan Sion Corn. Fideo i ddod yn fuan.

Agoriad Swyddogol Bys a Bawd

Dydd Sadwrn 4ydd o Ragfyr 2010

Agoriad Swyddogol Siop Bys a Bawd ar ei newydd wedd.

1000-1300 Sion Corn
1300-1400 Dewi Prysor yn arwyddo ei lyfr newydd
1430           Agoriad Swyddogol gyda Alun Ffred Jones
                   y Gweinidog Treftadaeth.


Croeso mawr i bawb!

02/11/2010

Cardiau Nadolig



Mae gan Siop Bys a Bawd ddewis eang yn barod o gardiau Dolig



Yn ogystal mae yna Hoodies newydd ar werth sydd yn edrych yn gret ac yn wych ar gyfer y tywydd diweddaraf.


Yn olaf, mae na gopiau ar gaset o Dolphin Pinc a Melyn gan Jen Jeniro ar gael am £3.00.
Mae o'n un o ganeuon gorau 2010


03/09/2010

Gemwaith a Thlysau














Ar gael o Siop Bys a Bawd casgliad o emwaith a thlysau gan gwmni Tlws a Ronin

Newydd wedd



















Mae'r adeiladwyr wedi gorffen (na nid Bob a'i ffrindiau)
a ma pethau wedi symud i'r gofod newydd sydd wedi ei greu yn yr hen siop drws nesaf.

16/08/2010

Drws Nesaf

Wedi gwirioni'n bot - siop Bys a Bawd wedi lledu i siop drws nesa - gwaith wedi bod yn digwydd ers misoedd - ond wsnos yma - waliau ffug wedi dod lawr , carpedi lawr a ma' popeth yn dechrau edrych yn gret - dwi fel hogan bach mewn siop fferins - sy' bron a bod yn llythrennol wir gan mai siop fferins dad oedd y siop drws nesa ers talwm. Croeso i bawb ddod i weld y trawsnewidiad!!
Dwynwen


Lluniau i ddod yn fuan

16/07/2010

Llyfr y Flwyddyn, Y Sioe Fawr a'r Eisteddfod

Llyfr y Flwyddyn
Llongyfarchiadau i Dr John Davies am ennill Llyfr y Flwyddyn 2010 gyda ei lyfr "Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw" (lluniau gan Marian Delyth)












Y Sioe Fawr


"Ymlaen a'r sioe" gan Charles Arch a Lyn Ebenezer - llyfr am Y Cardi ar Sioe Frenhinol













Yr Eisteddfod


Cynlluniwch eich wythnos yn yr Eisteddfod o flaen llaw









Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010


Pob un o'r llyfrau ar gael o Siop Bys a Bawd, Llanrwst

11/06/2010

Llyfrau Pel Droed - Sticeri a Cwpan y Byd



I gyd fynd gyda Pencampwriaeth Cwpan y Byd yn De Affrica mae yna ddau lyfr am bel droed.

Mae'r Llyfr Sticeri Pel Droed yn llawn sticeri iw gosod ar dudalenau'r llyfr.
Mae Cwpan y Byd 2010 yn llawn gwybodaeth am y 32 tim sydd yn chwarae yn y bencampwriaeth. Mae hefyd yn cynnwys siart goliau a gemau.

Ar gael o Siop Bys a Bawd

04/06/2010

Hwyl ar y gwerthu


Llwyddiant mawr oedd y Fedwen Lyfrau flwyddyn yma yn Llanrwst
ac roedd stondin Siop Bys a Bawd yn brysur iawn.
Posted by Picasa

10/05/2010

Nofel y mis - Mis Mai - Llafnau



Nofel y mis Gwales ar gyfer Mis Mai ydy Llafnau gan Geraint Evans.

"Caiff y ffermwr Martin Thomas ei lofruddio ar ei ffordd adre o gyfarfod tanbaid yn neuadd bentref Esgair-goch i drafod datblygu fferm wynt ar y bryniau uwchlaw'r pentref. Dialedd a chenfigen sydd wrth wraidd teimladau sawl un yn yr ardal tuag at Martin. Mae'r tri ditectif a fu wrthi'n datrys llofruddiaeth Elenid yn Y Llwybr yn wynebu sawl her unwaith eto."

Llafnau gan Geraint Evans ar gael o Siop Bys a Bawd, Llanrwst


Gwales Novel of the month is Llafnau by Geraint Evans

"Farmer Martin Thomas is murdered on his way home from a heated debate at the village hall, regarding the proposed wind farm development at Esgair-goch. Many of the villagers are jealous of Martin and feel the need to take revenge on him. The three detectives who solved Elenid's murder case in Y Llwybr have yet another crime to solve."

Llafnau by Geraint Evans available at Siop Bys a Bawd, Llanrwst


29/04/2010

Bedwen Lyfrau - gweithgareddau i'r Plant

Mi fydd digon i'w wneud i'r plant dydd Sadwrn yn y Fedwen Lyfrau

Llyfrau newydd Alun yr Arth – gweithdy gyda Morgan Tomos 10.15 a 3.00

Gweithdy Siriol Swyn – 10 o lyfrau newydd am dylwyth teg – gweithdy gliter ar gyfer merched 10.15 a 3.00

Y Ddraig Groch – (sylwer GROch – nid Goch !!) gan Myrddin ap Dafydd – yn y Gyfres Cerddi Lloerig – a mae o yn gwneud gweithdy cerddi lloerig am 11.30.

Academi Iwan - y gyntaf mewn cyfres o lyfrau pel droed – Bydd gem bel droed swmllyd – pen-bwrdd , etc gyda Gordon Jones 1.00

Sesiwn Tudur Budur gyda Gwenno Mair Davies 1.30 ( Un newydd – Tudur Budr – Mwd yn dod gobeithio?)

I’R PLANT LLEIAF MAE SESIYNAU CADW’N HEINI gyda HEINI o CYW a Sali Mali yno 10.15, 11.30 , 1.30 a 3.00

Mae’r Ffermwyr Ifanc yn lawnsio Llyfr Coginio am 1 o’r gloch ac mi fydd Bethan Wyn Jones yn arwain taith natur ar lan yr afon 1.30


Llyfrau ar werth yn Glasdir ar y diwrnod neu yn Siop Bys a Bawd


24/04/2010

Yr Odyn - Mis Ebrill



Ar gael yn Bys a Bawd

20/04/2010

Bedwen Lyfrau Llanrwst

Bydd Bedwen Lyfrau Llanrwst yn cael ei chynnal dros penwythnos Calan Mai 2010
Ar y nos Wener i gyd fynd gyda lawnsiad sawl cyfrol, bydd Sesiwn ar Fentro yng Nghefn Gwlad yn Nghanolfan Glasdir.
Ar ddydd Sadwrn bydd llu o weithgareddau wedi eu trefnu i bob oedran yn Nghanolfan Glasdir.


Y llyfrau a fydd yn cael eu lawnsio:
Byw Busnes - Gari Wyn
Y Gwalch, yr Inc a'r Bocsys - Myrddin ap Dafydd
Busnes ar y Buarth - Gareth a Falmai Roberts

Bydd y llyfrau ar gael o stondin Siop Bys a Bawd yn y Ganolfan dros y penwythnos.

Pentan - Mis Ebrill










Ar gael rwan o Siop Bys a Bawd