05/06/2011
Rhifyn Newydd o Y Selar - ar gael o Siop Bys a Bawd #llanrwst
Mae'r rhifyn diweddaraf o Y Selar ar gael o'r siop.
Mae Y Selar yn llawn o newyddion am y Sin Roc a Phop Cymraeg.
Yn y rhifyn diweddaraf y mae erthygl a "photo shoot" o Sen Segur sydd o Ddyffryn Conwy.
A tra bod ni wrthi gyda Sen Segur
Mae EP newydd Sen Segur ar gael o'r siop.
Hefyd
CD rapiwr gorau'n y byd - Rapsgaliwn
Brecwast Astranot - Geraint Jarman
a llawer, llawer mwy.
20/05/2011
Llyfr y Flwyddyn 2011 - Y Rhestr Fer
Llongyfarchiadau i'r canlynol.


Caersaint gan Angharad Price (Y Lolfa 2010)
Lladd Duw gan Dewi Prysor (Y Lolfa 2010)
Bydoedd gan Ned Thomas (Y Lolfa 2010)
ar gael o Siop Bys a Bawd, Llanrwst
Hefyd y Rhestr Hir
03/03/2011
Diwrnod y llyfr 2011
Dathlwch ddiwrnod y llyfr heddiw.
Dewis eang o lyfrau Cymraeg a Chymreig yn Siop Bys a Bawd, Llanrwst
29/01/2011
Gwasanaeth Llungopïo/Ffacsio/Lamineiddio
Gwasanaethau swyddfa
Llungopïo du a gwyn hyd at faint A3. Unrhyw nifer o gopïau.
A4 (papur gwyn) Papur lliw Papur memrwn Dwy ochr
1-20 copi 10c 12c 14c 15c
21- 50 9c 11c 13c 14c
51-80 8c 10c 12c 13c
81-200 7c 9c 11c 12c
201-500 6c 8c 10c 11c
A3>A4: 2 geiniog ychwanegol..
Llungopiau lliw
A4(papur gwyn)
1-20 copi 50c 52c 54c 75c
21-50 40c 42c 44c 60c
A3
75c yr un
Prisiau am fwy o gopiau i`w trafod. Gellir gwneud copiau drwy sganio o "go bach" a gellir hefyd sganio i mewn i go bach.
Ffacsio
O fewn y DU: Tudalen gyntaf £1.00, tudalennau ychwanegol 75c yr un.
O fewn Ewrop: Tudalen gyntaf £1.50, tudalennau ychwanegol £1.00 yr un.
Tu allan Ewrop: Tudalen gyntaf £2.50, tudalennau ychwanegol £2.00 yr un.
Derbyn ffacs
Tudalen gyntaf 50c, tudalennau ychwanegol 25c yr un.
Lamineiddio
A4: £1 yr un.
A3: £1.75 yr un.
A5: 80 ceiniog yr un.
04/12/2010
Yr Agoriad Swyddogol - Lluniau a Fideo
Cafwyd diwrnod campus yn Llanrwst heddiw gyda agoriad swyddogol y siop ar ei newydd wedd.
| Dewi Prysor, a oedd yn arwyddo ei lyfr, gyda Dwynwen |
| Y Genod Tan |
| Cerdd gan Myrddin am siop tad Dwynwen |
| Mari Gwilym yn dewis o'r casgliad helaeth o gardiau Nadolig |
| Dwynwen ac Alun Ffred yn agor y ruban swyddogol |
| Dwynwen yn derbyn blodau gan Pat |
| Arwydd newydd uwchben hen siop tad Dwynwen |
| Croeso gan Sion Corn. Fideo i ddod yn fuan. |
Agoriad Swyddogol Bys a Bawd
Dydd Sadwrn 4ydd o Ragfyr 2010
Agoriad Swyddogol Siop Bys a Bawd ar ei newydd wedd.
1000-1300 Sion Corn
1300-1400 Dewi Prysor yn arwyddo ei lyfr newydd
1430 Agoriad Swyddogol gyda Alun Ffred Jones
y Gweinidog Treftadaeth.
Croeso mawr i bawb!
Agoriad Swyddogol Siop Bys a Bawd ar ei newydd wedd.
1000-1300 Sion Corn
1300-1400 Dewi Prysor yn arwyddo ei lyfr newydd
1430 Agoriad Swyddogol gyda Alun Ffred Jones
y Gweinidog Treftadaeth.
Croeso mawr i bawb!
02/11/2010
Cardiau Nadolig
Mae gan Siop Bys a Bawd ddewis eang yn barod o gardiau Dolig
Yn ogystal mae yna Hoodies newydd ar werth sydd yn edrych yn gret ac yn wych ar gyfer y tywydd diweddaraf.
Yn olaf, mae na gopiau ar gaset o Dolphin Pinc a Melyn gan Jen Jeniro ar gael am £3.00.
Mae o'n un o ganeuon gorau 2010
Subscribe to:
Posts (Atom)

