29/01/2011

Gwasanaeth Llungopïo/Ffacsio/Lamineiddio

Gwasanaethau swyddfa 
Llungopïo du a gwyn hyd at faint A3. Unrhyw nifer o gopïau.
A4  (papur gwyn)              Papur lliw             Papur memrwn                Dwy ochr
1-20 copi        10c              12c                       14c                                    15c
21- 50             9c               11c                        13c                                    14c
51-80              8c               10c                        12c                                    13c
81-200            7c                9c                         11c                                    12c
201-500          6c                8c                         10c                                    11c
A3>A4:  2 geiniog ychwanegol..  
Llungopiau lliw
A4(papur gwyn)
1-20 copi       50c               52c                         54c                                  75c  
21-50             40c               42c                         44c                                  60c
A3 
75c yr un
Prisiau am fwy o gopiau i`w trafod. 
Gellir gwneud copiau drwy sganio o "go bach" a gellir hefyd sganio i mewn i go bach.      
            
Ffacsio
O fewn y DU: Tudalen gyntaf £1.00, tudalennau ychwanegol 75c yr un.
O fewn Ewrop: Tudalen gyntaf £1.50, tudalennau ychwanegol £1.00 yr un.
Tu allan Ewrop: Tudalen gyntaf £2.50, tudalennau ychwanegol £2.00 yr un.   
Derbyn ffacs
Tudalen gyntaf 50c, tudalennau ychwanegol 25c yr un.
Lamineiddio
A4: £1 yr un.
A3: £1.75 yr un.
A5: 80 ceiniog yr un.

04/12/2010

Yr Agoriad Swyddogol - Lluniau a Fideo

Cafwyd diwrnod campus yn Llanrwst heddiw gyda agoriad swyddogol y siop ar ei newydd wedd.



Dewi Prysor, a oedd yn arwyddo ei lyfr, gyda Dwynwen


Y Genod Tan

Cerdd gan Myrddin am siop tad Dwynwen

Mari Gwilym yn dewis o'r casgliad helaeth o gardiau Nadolig

Dwynwen ac Alun Ffred yn agor y ruban swyddogol

Dwynwen yn derbyn blodau gan Pat

Arwydd newydd uwchben hen siop tad Dwynwen

Croeso gan Sion Corn. Fideo i ddod yn fuan.

Agoriad Swyddogol Bys a Bawd

Dydd Sadwrn 4ydd o Ragfyr 2010

Agoriad Swyddogol Siop Bys a Bawd ar ei newydd wedd.

1000-1300 Sion Corn
1300-1400 Dewi Prysor yn arwyddo ei lyfr newydd
1430           Agoriad Swyddogol gyda Alun Ffred Jones
                   y Gweinidog Treftadaeth.


Croeso mawr i bawb!

02/11/2010

Cardiau Nadolig



Mae gan Siop Bys a Bawd ddewis eang yn barod o gardiau Dolig



Yn ogystal mae yna Hoodies newydd ar werth sydd yn edrych yn gret ac yn wych ar gyfer y tywydd diweddaraf.


Yn olaf, mae na gopiau ar gaset o Dolphin Pinc a Melyn gan Jen Jeniro ar gael am £3.00.
Mae o'n un o ganeuon gorau 2010


03/09/2010

Gemwaith a Thlysau














Ar gael o Siop Bys a Bawd casgliad o emwaith a thlysau gan gwmni Tlws a Ronin

Newydd wedd



















Mae'r adeiladwyr wedi gorffen (na nid Bob a'i ffrindiau)
a ma pethau wedi symud i'r gofod newydd sydd wedi ei greu yn yr hen siop drws nesaf.

16/08/2010

Drws Nesaf

Wedi gwirioni'n bot - siop Bys a Bawd wedi lledu i siop drws nesa - gwaith wedi bod yn digwydd ers misoedd - ond wsnos yma - waliau ffug wedi dod lawr , carpedi lawr a ma' popeth yn dechrau edrych yn gret - dwi fel hogan bach mewn siop fferins - sy' bron a bod yn llythrennol wir gan mai siop fferins dad oedd y siop drws nesa ers talwm. Croeso i bawb ddod i weld y trawsnewidiad!!
Dwynwen


Lluniau i ddod yn fuan