Cyfrol sy'n rhan o'r gyfres Nabod, lle mae'r gyflwynwraig deledu, y cynhyrchydd a'r tiwtor Cymraeg, Nia Parry, yn rhoi cipolwg o'i hanes, o'i dyddiau cynnar yn Nwyran ar Ynys Môn a Llandrillo-yn-Rhos, o Ysgol y Creuddyn i Brifysgol Abertawe, yna'r cyfnod yn byw a gweithio yng Nghaerdydd cyn ymgartrefu yn Rhostryfan yng Ngwynedd a dod yn fam ei hun y llynedd. -
Pwy yw'r dynion a'r menywod sy'n gyrru loris ar y ffordd fawr? Pwy yw'r cymeriadau sy'n aelodau o Glwb Bois y Loris Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru? "Dyma'r bois sy'n symud cynnyrch o gwmpas Cymru a'r byd. Mae diwylliant y gyrrwr lori yn un sy'n effeithio arnom ni i gyd," meddai Owain Llŷr. Dyma stori bois y loris mewn llun ac yn eu llais eu hunain.